#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
P-05-857 Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i greu Tasglu Cenedlaethol i ymchwilio i ba
ffactorau diwylliannol, ffactorau cymdeithasol a ffactorau
gwleidyddol a allai fod yn cyfrannu at nifer y plant yng Nghymru
sy’n dioddef iechyd meddwl gwael; a bod y Tasglu Cenedlaethol
hwn: Gwybodaeth ychwanegol: Menter gymdeithasol sydd newydd ei sefydlu yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Cyf. Ein hamcan yw cefnogi datblygiad diwylliant cenedlaethol sy’n galluogi plant i gynnal iechyd meddwl ardderchog, drwy helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda a / neu ar gyfer plant, i greu’r amgylchedd gorau lle gall iechyd meddwl pob plentyn ffynnu. |
Cefndir
Ar 14 Ionawr 2019, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai £7.1 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar amddiffyn, gwella a chefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cefnogi’r gwaith o weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ei adroddiad, ‘Cadernid Meddwl’.
Cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol ei adroddiad, ‘Cadernid Meddwl: Adroddiad ar y newid mawr sydd ei angen o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru’ ym mis Ebrill 2018. Mewn ymateb i’r adroddiad hwnnw, a oedd yn galw am ddynodi llesiant emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc fel blaenoriaeth genedlaethol benodol, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2018 y byddai Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol yn cael ei sefydlu i gynghori Llywodraeth Cymru ynghylch beth yn ychwanegol y gallai ei wneud i gyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau ac i sicrhau ymagwedd system gyfan tuag at iechyd a llesiant plant.
Caiff grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol Llywodraeth Cymru ei gadeirio ar y cyd gan y Gweinidog dros Addysg a’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’n dwyn ynghyd ystod o randdeiliaid, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sy’n cynnwys Aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad.
Cefnogir y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol gan grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o asiantaethau, yn ogystal â grŵp cyfeirio rhanddeiliaid ifanc, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i ddweud eu dweud yn uniongyrchol i helpu i lywio gwaith sy’n effeithio arnynt yn uniongyrchol.
Mae’r buddsoddiad o £7.1 miliwn yn ychwanegol at y £1.4 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn rhaglen o wasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion i gryfhau’r gefnogaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) mewn ysgolion mewn pedair ardal beilot ledled Cymru. Mae cynlluniau peilot CAMHS yn canolbwyntio’n benodol ar ymgynghori, cysylltu a chyngori, gan helpu i nodi achosion a sicrhau ymyrraeth gynnar.
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ymrwymo’n gyhoeddus i fonitro cynnydd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog dros Addysg wrth iddynt weithredu’r argymhellion yn ei adroddiad, ‘Cadernid Meddwl’, eleni.